YCHWANEGIAD DIWEDDARAF AT Y PECYN CYMORTH: Mae’r ychwanegiad newydd at becyn cymorth Codi Ymwybyddiaeth UNCRC i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol ychwanegol ar gael
yma.
Mae Erthygl 42 o’r confensiwn yn datgan y dylai’r Llywodraeth wneud y confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn. Yn unol â’r erthygl hon, un o amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP.
ŷn â’r adnoddau presennol sydd wedi’u hanelu’n unswydd at hybu’r CCUHP a chodi ymwybyddiaeth ohono wedi nodi nifer o fylchau yn y ddarpariaeth. Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu fel adnodd cyffredinol a chaiff rhagor o adnoddau penodol eu datblygu maes o law.
Lawrlwytho set gyflawn Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth yr CCUHP yma ar ffurf ffeil zip
Os ydych chi’n chwilio am un adran benodol o’r pecyn cymorth, cliciwch ar yr adran berthnasol isod:
Yn dod yn fuan – Hefyd fel rhan o’n thema o hybu delweddau cadarnhaol ar gyfer 2010 rydyn ni wrthi’n datblygu pecyn cymorth a fydd yn anelu at helpu plant a phobl ifanc i ysgrifennu gwybodaeth sy’n eu portreadu nhw mewn modd cadarnhaol. Bydd yr adnoddau hyn ar gael yma cyn hir! I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n pecynnau cymorth, cysylltwch â’r blwch postio hawliau sydd i’w weld ar yr hafan.
Cymerwch olwg ar yr ychwanegiad newydd at becyn cymorth Codi Ymwybyddiaeth CCUHP. Cliciwch
yma i wrando ar erthyglau’r CCUHP, Gwneud Pethau’n iawn 2009, yr Arsylwadau Terfynol a’r Blaenoriaethau ar gyfer Cymru
Edrychwch ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud a’r hyn sydd yn yr arfaeth
yma
Chwarae gêm - Gêm eich hawliau

Rydyn ni’n gofyn i blant a phobl ifanc 7-25 oed droi’n newyddiadurwyr i sôn am faterion sy’n effeithio arnyn nhw.
Dysgwch ragor yma.
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am y pecyn cymorth neu unrhyw agwedd ar y prosiect.
Rhowch eich adborth ymaLlenwch ein holiadur byr am yr CCUHP