Mae Erthygl 42 o’r Confensiwn yn datgan y dylai’r Llywodraeth wneud y Confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn.  Yn unol â’r erthygl hon, un o amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP. 

Mae ymarfer mapio diweddar ynglŷn â’r adnoddau presennol sydd wedi’u hanelu’n unswydd at hybu’r CCUHP a chodi ymwybyddiaeth ohono wedi nodi nifer o fylchau yn y ddarpariaeth.  Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu fel adnodd cyffredinol a chaiff rhagor o adnoddau penodol eu datblygu maes o law. .

Lawrlwytho set gyflawn y Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth yma ar ffurf ffeil zip

Pecyn Cymorth
Lawrlwytho ffeiliau unigol
UNCRC Cyflwyniad ac Adrannau Cymraeg   CCUHP Cyflwyniad ac Adrannau Cymraeg.pdf
Yr UNCRC yn blaen Cymraeg   CCUHP yn blaen Cymraeg.pdf
UNCRC Erthyglau   CCUHP Erthyglau.pdf
UNCRC Gweithdy 1 - Oedolion Cymraeg   CCUHP Gweithdy 1 - Oedolion Cymraeg.pdf
UNCRC Gweithdy 2 - Plant Oed Cynradd Cymraeg   CCUHP Gweithdy 2 - Plant Oed Cynradd Cymraeg.pdf
UNCRC Gweithdy 3 – Pobl Ifanc Oed Uwchradd Cymraeg   CCUHP Gweithdy 3 – Pobl Ifanc Oed Uwchradd Cymraeg.pdf
UNCRC Gweithdy 4 - Rhieni, Gofalwyr ac Oedolion Ifanc   CCUHP Gweithdy 4 - Rhieni, Gofalwyr ac Oedolion Ifanc.pdf
UNCRC Gwefannau Gwerth eu Gweld Cymraeg   CCUHP Gwefannau Gwerth eu Gweld Cymraeg.pdf
Yr UNCRC yn blaen Cymraeg   CCUHP Adnoddau’r Gweithdai.pdf
Yr UNCRC yn blaen Cymraeg   CCUHP Gair i Gall.pdf
Yr UNCRC yn blaen Cymraeg   CCUHP Adnoddau Defnyddiol.pdf







English
plant
case study
our partners
feed back on the toolkit
competition
Rydyn ni’n gwybod mai isel yw’r ymwybyddiaeth o’r CCUHP yng Nghymru. Oherwydd hynny, rydyn ni wedi dechrau edrych ar ffyrdd i wneud mwy o bobl yn ymwybodol ohono. Fel cam cyntaf, rydyn ni wedi casglu nifer o adnoddau defnyddiol a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ac mae hyn yn cynnwys y pecyn cymorth hwn sy’n gallu helpu pawb i ddysgu mwy am y Confensiwn.

Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â nifer o sefydliadau a grwpiau dros y misoedd diwethaf i dreialu’r pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth. Gweld enghraifft o’r pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn realiti yng Nghymru. Dyma ddolenni sy’n cysylltu â rhai o’r partneriaid rydyn ni’n cydweithio’n fwyaf agos a nhwY Ddraig Ffynci
Achub y Plant
Comisiynydd Plant Cymru
clic online
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am sut y gallen ni wneud y pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth yn well byth. Rydyn ni wrthi’n ystyried datblygu amrediad cyfan o adnoddau yn y maes hwn, felly cadwch eich llygaid yn agored!

Cyn hir bydd blog gennyn ni ar y wefan lle gallwch weld yr adborth i gyd. Mae ffurflen adborth ar gael yma.