Mae Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn datgan y dylai’r Llywodraeth wneud y confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o’r confensiwn ac fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw fe fuon ni wrthi y llynedd (2009) yn codi ymwybyddiaeth a hynny drwy fod yn bresennol mewn amryw byd o sioeau haf ledled Cymru, a thrwy ddathliad yn y Senedd ym mis Tachwedd i nodi 20fed Pen-blwydd y Confensiwn.
Mae’n prif thema ni eleni (2010) yn ymwneud â hybu delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc yng Nghymru a’r cyfraniadau cadarnhaol y maen nhw’n eu rhoi i’r gymdeithas. Darllenwch isod i weld yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn ei wneud ac wrthi’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ac i wella bywydau plant a phobl ifanc Cymru.
20fed Pen-blwydd Tachwedd 2009
I ddathlu 20fed pen-blwydd mabwysiadu’r CCUHP gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddigwyddiad bach yn y Senedd ar 20 Tachwedd 2009.
Daeth y Gweinidog ar y pryd dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt, i’r digwyddiad, gan lansio Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ sy’n nodi camau ar gyfer bwrw ymlaen â’r CCUHP dros y pum mlynedd nesaf yng Nghymru.
Ymunodd Prif Weinidog Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru â’r Gweinidog ynghyd â phlant, pobl ifanc ac oedolion a fu’n cymryd rhan i beilota pecyn cymorth i godi ymwybyddiaeth drwy weithdai a gafodd ei lansio hefyd ar y diwrnod, gan anelu at helpu gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr i addysgu plant a phobl ifanc am eu hawliau. Edrychwch ar y fideo o ddathliad yr 20fed pen-blwydd isod!
I godi rhagor o ymwybyddiaeth o’r confensiwn, cafodd cystadleuaeth genedlaethol ei lansio hefyd gan annog plant a phobl ifanc i rannu eu dyheadau nhw ar gyfer yr CCUHP dros yr 20 mlynedd nesaf. Bu’r gystadleuaeth yn llwyddiant aruthrol gyda chynigion o bob rhan o Gymru. Edrychwch ar adran yr enillwyr, sy’n dangos y goreuon.
Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth
Cafodd pecyn cymorth i godi ymwybyddiaeth ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen o weithgareddau yn arwain at yr 20fed pen-blwydd ym mis Tachwedd 2009. Mae’r gwaith i fwrw ymlaen â’r Pecyn Cymorth presennol yn cynnwys creu modiwl ychwanegol ar gyfer AAA (Anghenion Addysgol Arbennig). Mae’r pecyn cymorth arbenigol wedi’i ddatblygu ac wedi’i beilota mewn nifer o sefydliadau AAA a bydd ar gael yn haf 2010.
Hybu Delweddau Cadarnhaol: 21ain Pen-blwydd Tachwedd 2010
Un o flaenoriaethau “Gwneud Pethau’n Iawn” ac un o’r cyd-flaenoriaethau i Barti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig a’r partneriaid ledled Cymru yw hybu delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc fel ffordd i fynd i’r afael â’r argraffiadau negyddol sydd wedi’u crybwyll mewn astudiaethau ymchwil diweddar.
Mae’r gwaith cynllunio wedi dechrau ar gyfer digwyddiad y pen-blwydd yn 21 yn y Senedd ar 19 Tachwedd. Ffocws yr holl weithgareddau a’r holl allbynnau eleni fydd hybu delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’u cyfraniadau cadarnhaol i’r gymdeithas a’u cyraeddiadau a hynny drwy ddigwyddiadau, deunyddiau ysgrifenedig a chysylltiadau cyhoeddus. Caiff yr allbynnau eu defnyddio yn llawer ehangach yng ngwaith marchnata a chyfathrebu Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod negeseuon ynglyn â’r CCUHP yn cael eu croes-hybu.
Pecyn Cymorth Hybu Delweddau Cadarnhaol
Bydd pecyn newydd yn cael ei ddatblygu i helpu plant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw i hybu a chodi ymwybyddiaeth o gyfraniad cadarnhaol plant a phobl ifanc i’r gymdeithas er mwyn helpu i fynd i’r afael â lefel bresennol yr argraff negyddol sydd gan y cyhoedd.
Nod y pecyn cymorth yw rhoi’r adnoddau creadigol i blant, pobl ifanc a staff sy’n gweithio mewn sefydliadau anffurfiol a ffurfiol i deimlo’n fwy hyderus wrth hybu delweddau cadarnhaol a dathlu llwyddiannau yn eu cymunedau ac ar y lefel leol a chenedlaethol. Bydd yn rhoi cymorth, cyngor a chanllawiau er mwyn i blant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw wneud cyfraniad effeithiol a thanlinellu cyfraniad cadarnhaol plant a phobl ifanc i’r gymdeithas. Bydd y pecyn cymorth yn helpu i feithrin medrau a hyder ymhlith plant a phobl ifanc ac yn cynnwys medrau llythrennedd, medrau cyflwyno, medrau cyfryngau etc. Caiff yr adnodd hwn ei ychwanegu at adran y Pecyn Cymorth maes o law!
Mesur arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn plannu ymagwedd Llywodraeth Cynulliad Cymru at wneud polisïau, sef ymagwedd sydd wedi’i seilio ar hawliau, yn gadarn, ac yn cynnal a chryfhau’r momentwm tuag at wireddu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gyffredinol yn llawn.
Mae’r brif ddyletswydd yn y Mesur arfaethedig yn cael ei gosod ar Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw roi sylw i’r hawliau a’r rhwymedigaethau o sylwedd yn yr CCUHP a’i Brotocolau Dewisol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i arfer y swyddogaethau y maen nhw’n eu harfer. Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cynllun Plant.
Yn sgil ein hymgynghoriad diweddar ar y Mesur arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), rydyn ni wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl adborth a ddaeth i law.
Erbyn hyn mae’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u cyhoeddi ac maen nhw ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:
http://new.wales.gov.uk/consultations/education/righsofchildrenyoung/?skip=1&lang=cy&status=closed
Cafodd y Mesur arfaethedig ei gyflwyno ddydd Llun 14 Mehefin a’i gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant ddydd Mawrth 15 Mehefin 2010.
Dyma’r ddolen i’r dogfennau sydd wedi’u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-rightsofchildren.htm
Edrychwch ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud a’r hyn sydd yn yr arfaeth
yma
Chwarae gêm - Gêm eich hawliau

Rydyn ni’n gofyn i blant a phobl ifanc 7-25 oed droi’n newyddiadurwyr i sôn am faterion sy’n effeithio arnyn nhw.
Dysgwch ragor yma.