Os hoffech chi ddysgu rhagor am y confensiwn yng Nghymru,
cliciwch yma.
Os oes gennych chi ymholiadau am ein gwefan, y pecyn cymorth neu unrhyw beth ynglŷn â’r CCUHP, cysylltwch â ni yn:
rights&entitlements@wales.gsi.gov.uk
Mae Erthygl 42 o’r confensiwn yn datgan y dylai’r Llywodraeth wneud y confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn. Yn unol â’r erthygl hon, un o amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu
pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth i helpu gweithwyr proffesiynol i addysgu plant a phobl ifanc am eu hawliau. Mynnwch y pecyn cymorth drwy glicio isod.

Er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn ei bod yn hanfodol ymgynghori â nhw ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, ac edrych ar eu barn nhw am sut y gallwn ni fel Llywodraeth greu perthynas weithio well gyda nhw.
Mae’r fideo ar yr ochr dde yn enghraifft o un o’r digwyddiadau ymgynghori a gafodd eu cynnal wrth lunio’r Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth gyda phlant a phobl ifanc. Bu’r ymgynghori’n help i sicrhau bod y gweithdai sydd i’w cyflwyno drwy’r pecyn cymorth yn addas i bobl ifanc, ac yn adnoddau effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer ymarferwyr i godi ymwybyddiaeth o’u hawliau o dan yr CCUHP.
Cymrwch olwg ar ein
Hadnoddau Clywedol sydd ar gael
yma, gan gynnwys erthyglau CCUHP, 'Gwneud Pethau’n Iawn 2009', 'Blaenoriaethau ar gyfer Cymru' a 'Sylwadau Clo'
Sioeau Haf! - Unwaith eto bydd sioeau’r haf yn gyfle gwych inni sicrhau
adborth am yr CCUHP, ac i hysbysebu’r gystadleuaeth newydd ar ddelweddau cadarnhaol.
Edrychwch ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud a’r hyn sydd yn yr arfaeth
yma
Chwarae gêm - Gêm eich hawliau

Rydyn ni’n gofyn i blant a phobl ifanc 7-25 oed droi’n newyddiadurwyr i sôn am faterion sy’n effeithio arnyn nhw.
Dysgwch ragor yma.
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am y pecyn cymorth neu unrhyw agwedd ar y prosiect.
Rhowch eich adborth ymaLlenwch ein holiadur byr am yr CCUHP