Cysylltwch â ni yn RightsandEntitlementsBranch@wales.gsi.gov.uk










English
plant
case study
our partners
feed back on the toolkit
competition
Rydyn ni’n gwybod mai isel yw’r ymwybyddiaeth o’r CCUHP yng Nghymru. Oherwydd hynny, rydyn ni wedi dechrau edrych ar ffyrdd i wneud mwy o bobl yn ymwybodol ohono. Fel cam cyntaf, rydyn ni wedi casglu nifer o adnoddau defnyddiol a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ac mae hyn yn cynnwys y pecyn cymorth hwn sy’n gallu helpu pawb i ddysgu mwy am y Confensiwn.

Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â nifer o sefydliadau a grwpiau dros y misoedd diwethaf i dreialu’r pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth. Gweld enghraifft o’r pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn realiti yng Nghymru. Dyma ddolenni sy’n cysylltu â rhai o’r partneriaid rydyn ni’n cydweithio’n fwyaf agos a nhwY Ddraig Ffynci
Achub y Plant
Comisiynydd Plant Cymru
clic online
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am sut y gallen ni wneud y pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth yn well byth. Rydyn ni wrthi’n ystyried datblygu amrediad cyfan o adnoddau yn y maes hwn, felly cadwch eich llygaid yn agored!

Cyn hir bydd blog gennyn ni ar y wefan lle gallwch weld yr adborth i gyd. Mae ffurflen adborth ar gael yma.