Fel rhan o’n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, aethon ni ati i ofyn i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddweud beth dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud dros yr 20 mlynedd nesaf i wneud bywyd yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy difyr iddyn nhw.
Daeth cynigion i law mewn llawer o ffurfiau gan gynnwys peintiadau, cerddi a llyfrynnau. I feirniadu’r gystadleuaeth, gwahoddwyd cynrychiolydd o Achub y Plant a phanel o bobl ifanc a ddewisodd chwe enillydd rhanbarthol o bob rhan o Gymru (isod).
O blith yr enillwyr rhanbarthol cafodd enillwyr Cymru gyfan eu dewis, un o’r ystod oedran gynradd ac un o’r ystod oedran 11-25. Anfonwyd eu gwobrau at yr enillwyr rhanbarthol, sef camera digidol a thystysgrif. Cafodd enillwyr Cymru gyfan eu gwobrau, sef cyfrifiadur pen-glin, a’u tystysgrifau, yn y Senedd gan y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis.
.
Overall Wales winners were:
Enillwyr y gystadleuaeth yn yr ystod oedran 11-25
Ysgol Gyfun Trefynwy – a greodd Furlun yn dangos hawliau plant a phobl ifanc o dan yr CCUHP, gan gynnwys eu hawl i gael preifatrwydd, maeth, addysg, rhyddid a llawer mwy.
Mae’r murlun yn cael ei ddangos mewn Canolfan Gymorth i’r myfyrwyr yn yr ysgol. |
|
 |
Enillwyr y gystadleuaeth i ysgolion cynradd
Ysgol Gynradd Lansdowne – a gyflwynodd lyfryn
ar sut maen nhw’n credu y gall Llywodraeth Cynulliad
Cymru wella Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.
Yr Enillwyr Rhanbarthol
Y Gogledd
Cynradd – Isabel Kirkham
11-25 – Stacey Jones
Y De-orllewin
Cynradd – Shannon Stokes
11-25 – Rachel Morris
Y De-ddwyrain
Cynradd – Ysgol Gynradd Lansdowne
11-25 – Ysgol Gyfun Trefynwy
|
|
 |
NEU!! Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol
yma
Rhan newydd o’r wefan. Cymerwch olwg ar y
PECYN CYMORTH I’R CYFRYNGAU a lansiwyd yn ddiweddar
Edrychwch ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud a’r hyn sydd yn yr arfaeth
yma
Chwarae gêm - Gêm eich hawliau

Fideos a lluniau o’r digwyddiad
yma.
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am y pecyn cymorth neu unrhyw agwedd ar y prosiect.
Rhowch eich adborth yma