
![]() |
Canllaw i Hyfforddwyr Disgrifiad: Canllaw cynhwysfawr ar gyfer cynnal sesiwn hanner diwrnod ar hyrwyddo a gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ar gyfer pobl sy'n cyflawni cymhwyster i weithio gyda plant a phobl ifanc. Gellir defnyddio'r canllaw hwn ar y cyd â'r cyflwyniad cyffredinol hanner diwrnod i CCUHP sydd ar y wefan hon i greu diwrnod llawn o hyfforddiant. Mae'r canllaw'n cynnwys trosolwg o'r sesiwn, amseriadau, nodiadau ar gyfer y sleidiau ac adnoddau yr awgrymir eu defnyddio ochr yn ochr â'r cyflwyniad powerpoint. |
|
|---|---|---|
![]() |
Offeryn Asesu Effaith Disgrifiad: Offeryn i'w ddefnyddio yn dilyn yr hyfforddiant ar CCUHP i asesu ei effaith ar ddealltwriaeth y cyfranogwyr o CCUHP a'u cymhwysiad ymarferol ohono wrth eu gwaith. |
|
![]() |
Cyflwyniad Powerpoint i gyd-fynd â'r hyfforddiant Disgrifiad: Rhestr o'r derminoleg a ddefnyddir yng nghyswllt CCUHP. Cyflwyniad Powerpoint i gyd-fynd â'r hyfforddiant. |
|
![]() |
Geirfa |
|
![]() |
Atodiad 1: Cynghorion ar gyfer hyfforddwyr newydd |
|
![]() |
Atodiad 2: Adnoddau a gwefannau defnyddiol a chydnabyddiaethau |
|
![]() |
Atodiad 3: Cynnwys pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn yr hyfforddiant |
|
![]() |
Atodiad 4: Cartwnau |
|
![]() |
Atodiad 5: Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Confensiwn y C.U. ar Hawliau’r Plentyn 1989 |
|
![]() |
Atodiad 6: Fersiwn gryno o erthyglau llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – medrir ei ddefnyddio fel ymarferiad didoli cardiau
|
|
![]() |
Atodiad 7: Nodiadau ychwanegol ynglyn â mesurau Llywodraeth y Cynulliad |
|
![]() |
Atodiad 8: 16 blaenoriaeth Gwneud Pethau’n Iawn |
|
![]() |
Atodiad 9: Nodiadau ychwanegol ynglyn â Hawliau Dynol |
|
![]() |
Deri View – Hawl i addysg Hyd 6 munud: Disgrifiad: Mae’r Prifathro a’r Pennaeth AAA yn siarad am ymagwedd yr ysgol at gynnwys pob disgybl gan gynnwys y sawl sydd ag anghenion meddygol a chymorth addysgu cymhleth. Cyfres sleidiau â ffotograffau o’r disgyblion a gweithgareddau sy’n digwydd yn yr ysgol. |
|
![]() |
Grwp Parchu Hawliau Hyd 4 munud: Disgrifiad: Disgyblion Ysgol Gynradd Gwyrosydd yn Abertawe yn siarad am eu dealltwriaeth nhw o hawliau ac yn arbennig am erthygl 42. Maen nhw’n nodi sut maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun ysgol. Mae cyfres sleidiau yn rhedeg ochr yn ochr â’r plant yn siarad. |
|
![]() |
Mae Gennym ni’r Hawl Hyd 6 munud: Disgrifiad: Disgyblion Ysgol Gynradd Gwyrosydd yn canu am eu hawliau. Mae cyfres sleidiau o’r ysgol yn rhedeg ochr yn ochr â’r plant yn canu. |
|
![]() |
Stori Sam a Laura Hyd 6 munud: Disgrifiad: Pobl ifanc sy’n derbyn gofal yn siarad am eu profiadau o fod mewn gofal a sut mae’r ysgol a gweithwyr cymdeithasol wedi eu helpu i fanteisio ar y cymorth roedd arnynt ei angen. |
|
![]() |
Stori Victoria Hyd 3 munud: Disgrifiad: Mae gofalwr ifanc a’i mam yn trafod rhan Victoria mewn darparu ymyriadau iechyd cymhleth i’w mam. Mae hyn yn amlygu materion am fywydau cartref rhai plant a’r lefelau cyfrifoldeb maent yn eu cario a pham y byddent efallai’n colli ysgol neu’n methu rhoi eu sylw llawn yn y dosbarth. |
|
![]() |
ABCD Hyd 6 munud: Disgrifiad: Pobl ifanc anabl yn siarad am eu profiadau o dderbyn gwybodaeth oddi wrth wasanaethau iechyd a chymryd rhan mewn penderfyniadau am driniaeth. |
|
![]() |
Stori Glen Hyd 3 munud: Disgrifiad: Rhywun sydd wedi gadael gofal sydd erbyn hyn yn cynnal fforwm i Blant sy’n Derbyn Gofal yn codi materion am yr anawsterau sydd gan bobl ifanc sy’n gadael gofal wrth fanteisio ar wasanaethau iechyd. |
|
![]() |
Fforwm Fe Fi Hyd 2 munud: Disgrifiad: Sioe sleidiau o waith celf gwreiddiol wedi ei osod i gerddoriaeth gan gyflwyno barn pobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n mynychu fforwm yn Abertawe. |
|
![]() |
Stori Lisa Hyd 3 munud: Disgrifiad: Rhywun sydd wedi gadael gofal yn siarad am ei phrofiadau o fod mewn gofal, yn arbennig ei diffyg cyfranogiad ystyrlon mewn cyfarfodydd adolygu a phenderfyniadau am ei gofal. |
|
![]() |
Stori Patricia Hyd 6 munud: Disgrifiad: Mam i ddau o blant wedi eu mabwysiadu, sydd ag anghenion ychwanegol, yn siarad am yr anawsterau maent wedi eu hwynebu fel teulu, angen y plant am amrediad eang o wasanaethau cymorth parhaus, a’r bobl sydd wedi eu helpu i fanteisio ar gefnogaeth briodol am eu hanghenion sydd wedi eu nodi. ![]() |
|
![]() |
Plant … Hawliau … Ha! / Children’s Wrongs Disgrifiad: (Sut mae plant yn cael eu cam-drin a sut mae’r CCUHP yn gweithio i rhoi’r gorau i hynny) Animeiddiad dwy funud sydd yn cyflwyno’r cam-drim sydd yn digwydd i blant ar draws y byd a sut mae’r CCUHP yno i dywysu’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau i ddad-wneud y drwg. Iawrlwytho Iawrlwytho zip |
|
![]() |
Geiriau Cywir, Trefn Anghywir Disgrifiad: (Sut mae geiriau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr....) Ffilm fer sydd yn dangos sut mae pwer geiriau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth newid agweddau tuag at y CCUHP Iawrlwytho Iawrlwytho zip |
|
![]() |
Pecyn Posteri Disgrifiad: Delweddau UNICEF a phecyn ychwanegol gyda delweddau â chyd-destun Cymraeg Amrywiaeth o Bosteri UNICEF (pdf) Amrywiaeth o Bosteri UNICEF (ppt) Amrywiaeth o Bosteri â chyd-destun Cymraeg (pdf) Amrywiaeth o Bosteri â chyd-destun Cymraeg (ppt) Iawrlwytho zip |
|
![]() |
CCUHP: Pa Hawl Sydd Gen Ti i Fod Yn Blentyn Yng Nghymru Disgrifiad: (Siwrne drwy’r CCUHP a sut mae cyfrifoldebau yn ffitio ynddo) Cyflwyniad sydd yn archwilio nifer o agweddau’r CCUHP, gan gynnwys sut mae hawliau yn cael eu gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau a dolenni i rai o’r mudiadau yng Nghymru sydd yn ei gefnogi. Adnodd gwych i’w wylio fel grwp, neu gan bobl ifanc wrth gyfrifiadur, sydd yn rhoi’r rhyddid iddynt ddewis faint o amser i’w wario ar wahanol rannau’r Prezi. Gall ysgolion rhoi’r Prezi ar eu mewnrwyd a gall disgyblion ei archwilio o’u cartrefi. Iawrlwytho |
|