This text is replaced by the Flash movie.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy’n diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed. Cafodd yr CCUHP ei ddilysu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1989 ac ar 16 Rhagfyr 1991, cytunodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ffurfiol i sicrhau bod pob plentyn yn y Deyrnas Unedig yn cael yr holl hawliau fel y rhestrwyd nhw yn y confensiwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i’r confensiwn drwy ei fabwysiadu yn sail ar gyfer gwneud polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2004.

Beth yw Hawliau Dynol felly?
Gwarant yw hawliau dynol sy’n diogelu unigolion a grwpiau rhag gweithredoedd sy’n effeithio ar eu rhyddid a’u hurddas fel pobl. Mae hawl gennych i hawliau dynol am y rheswm syml eich bod yn berson. Mae’r hawliau hynny:

Erthyglau’r CCUHP a beth sy’n nesaf
Mae cyfanswm o 54 o erthyglau yn y Confensiwn. Mae Erthyglau 43-54 yn ymwneud â sut y dylai oedolion a llywodraethau weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i’w hawliau. Mae erthyglau 1-42 yn nodi sut y dylai plant gael eu trin. I weld pob un o’r 54 o erthyglau cliciwch ar y dolenni isod:

pdf
Fersiwn i Blant a Phobl Ifanc (pdf)

Fersiwn Llawn
http://www2.ohchr.org/english/law/crc.htm

Bob 4-5 mlynedd, bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn pwyso a mesur y cynnydd sydd wedi’i wneud gan Barti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig tuag at roi’r 54 o erthyglau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar waith, gan ddiogelu hawliau dynol plant a phobl ifanc.

Cafodd yr adolygiad diwethaf o gynnydd Parti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig (sef llywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a’r tiriogaethau tramor) ei gynnal yn 2008 a chafodd gwybodaeth ei chyflwyno gan Barti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig a sefydliadau eraill sydd â buddiant mewn Hawliau Plant yn 2007.

I weld copi o Gynllun Gweithredu’r UNCRC ar gyfer Cymru, ‘Getting it Right’, ewch i
http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/uncrc.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydweithio hefyd â gweddill Parti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig ar y cyd-flaenoriaethau, gan gynnwys rhoi sylw i lefelau isel o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r CCUHP ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n credu mai gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd fwyaf effeithiol i gyrraedd y nod o sicrhau llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig a’u helpu i wireddu eu hawliau a’u potensial llawn.

.

 

 




English
NEU!! Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yma

Rhan newydd o’r wefan. Cymerwch olwg ar y PECYN CYMORTH I’R CYFRYNGAU a lansiwyd yn ddiweddar
Edrychwch ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud a’r hyn sydd yn yr arfaeth yma

Chwarae gêm - Gêm eich hawliau


Fideos a lluniau o’r digwyddiad yma.
Cynllun Gweithredu treigl i Gymru dros bum mlynedd

Gwneud Pethau’n Iawn (Fersiwn llawn)
Gwneud Pethau’n Iawn (Fersiwn pobl ifanc)
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am y pecyn cymorth neu unrhyw agwedd ar y prosiect.
Rhowch eich adborth yma