Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn
gytundeb rhyngwladol sy’n diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed.
Gwarant yw hawliau dynol sy’n diogelu unigolion a grwpiau rhag
gweithredoedd sy’n effeithio ar eu rhyddid a’u hurddas fel pobl. Mae
hawl gennych i hawliau dynol am y rheswm syml eich bod yn berson.
Mae’r hawliau hynny:
- I bawb : Yr un hawliau sydd gan bawb
- Yn anwahanadwy: Maen nhw i gyd yr un mor bwysig â’i gilydd
- Yn ddiymwad: Maen nhw gan bawb ac ni chewch eu dwyn oddi ar neb.
Cafodd yr CCUHP ei ddilysu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1989 ac ar 16 Rhagfyr 1991, cytunodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ffurfiol i sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn cael yr holl hawliau fel y rhestrwyd nhw yn y confensiwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i’r confensiwn drwy ei fabwysiadu fel sail ar gyfer gwneud polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae 54 o erthyglau yn y Confensiwn. Mae Erthyglau 43-45 yn ymwneud â sut y dylai oedolion a llywodraethau weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i’w hawliau. Mae’r wybodaeth a geir yma yn ymdrin ag erthyglau 1-42 sy’n cyflwyno sut y dylai plant gael eu trin.
Bob 4-5 mlynedd, bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn pwyso a mesur y cynnydd sydd wedi’i wneud gan Barti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig tuag at roi’r 54 o erthyglau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar waith, gan ddiogelu hawliau dynol plant a phobl ifanc.
Cafodd yr adolygiad diwethaf o gynnydd Parti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig (sef llywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a’r tiriogaethau tramor) ei gynnal yn 2008 a chafodd gwybodaeth ei chyflwyno gan Barti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig a sefydliadau eraill sydd â buddiant mewn Hawliau Plant yn 2007.
I weld copi o Gynllun Gweithredu’r UNCRC ar gyfer Cymru, ‘Getting it Right’, ewch http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/uncrc wedi’i ddatblygu gyda’r partneriaid allweddol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydweithio hefyd â gweddill Parti Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig ar y cyd-flaenoriaethau, gan gynnwys rhoi sylw i lefelau isel o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n credu mai gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd fwyaf effeithiol i gyrraedd y nod o sicrhau llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig a’u helpu i wireddu eu hawliau a’u potensial llawn.
Enillwch gamcorder bach neu gyfrifiadur pen-glin
I nodi pen-blwydd CCUHP yn 20 oed rydyn ni’n herio plant a phobl ifanc yng Nghymru i greu eu syniadau eu hunain ar sut i wireddu nodau’r cytundeb hanesyddol hwn dros yr ugain mlynedd nesaf. Mae’r gystadleuaeth gyffrous yn cynnwys categorïau ar wahân ar gyfer disgyblion ysgol gynradd a phobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. I gael rhagor o fanylion, cliciwch isod:
Cynradd
11- 25 oed
Mae’n ugain mlynedd eleni ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu’r CCUHP.
I nodi’r achlysur, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynnal dathliad ar raddfa fach. Bydd y dathliad yn cynnwys lansio Cynllun Gweithredu’r CCUHP ar gyfer Cymru,
Pecyn Cymorth i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP a chystadleuaeth genedlaethol.
Mae Erthygl 42 o’r Confensiwn yn datgan y dylai’r Llywodraeth wneud y Confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn. Yn unol â’r erthygl hon, un o amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP.
Mae ymarfer mapio diweddar ynglyn â’r adnoddau presennol sydd wedi’u hanelu’n unswydd at hybu’r CCUHP a chodi ymwybyddiaeth ohono wedi nodi nifer o fylchau yn y ddarpariaeth.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu fel adnodd cyffredinol a chaiff rhagor o adnoddau penodol eu datblygu maes o law.
Rydyn ni’n gwybod mai isel yw’r ymwybyddiaeth o’r CCUHP yng Nghymru. Oherwydd hynny, rydyn ni wedi dechrau edrych ar ffyrdd i wneud mwy o bobl yn ymwybodol ohono. Fel cam cyntaf, rydyn ni wedi casglu nifer o
adnoddau defnyddiol a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ac mae hyn yn cynnwys y
pecyn cymorth hwn sy’n gallu helpu pawb i ddysgu mwy am
y Confensiwn.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â nifer o sefydliadau a grwpiau dros y misoedd diwethaf i dreialu’r pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth. Gweld enghraifft o’r
pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio.
Mae croeso i unrhyw awgrymiadau sydd gennych am sut y gallen ni wneud y
pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth yn well byth. Rydyn ni wrthi’n ystyried datblygu amrediad cyfan o adnoddau yn y maes hwn, felly cadwch eich llygaid yn agored!
Cyn hir bydd blog gennyn ni ar y wefan lle gallwch weld yr adborth i gyd. Mae ffurflen adborth ar gael
yma.